Colin McRae | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 5 Awst 1968 ![]() Lanark ![]() |
Bu farw | 15 Medi 2007 ![]() Lanark ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | co-driver, gyrrwr ceir cyflym, gyrrwr rali ![]() |
Tad | Jimmy McRae ![]() |
Gwobr/au | MBE, Segrave Trophy ![]() |
Chwaraeon |
Gyrrwr o'r Alban ym Mhencampwriaeth Rali'r Byd oedd Colin Steele McCrae MBE (5 Awst 1968 – 15 Medi 2007), mab Jimmy McRae, enillydd Pencampwriaeth Rali Prydain pum gwaith, a brawd hyn y gyrrwr proffesiynol Alister McRae. Enillodd Bencampwriaeth Rali'r Byd yn 1995, a bu'n ail yn 1996, 1997 a 2001, a thrydydd yn 1998.
Helpodd Colin i Subaru ennill Pencampwriaeth y Gwneuthurwyr yn 1995, 1996 a 1997, a Citroën yn 2003. Cafodd MBE gan y frenhines, Elisabeth II, yn 1996.
Bu farw McRae mewn damwain pan ddisgynnodd ei hofrennydd i'r ddaear wrth lanio ar dir ei gartref yn Lanark.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search